Language:

Paper Clip
 

Mabon Band ShotAm y gerddoriaeth:

Gallech chi ddisgrifio cerddoriaeth Jamie Smith's Mabon fel cerddoriaeth byd, rhyng-Geltaidd, wreiddiol. Wedi ei chyfansoddi gan Jamie Smith, a’i dehongli gan chwech o gerddorion medrus, mae'n cael ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin draddodiadol y gwledydd Celtaidd. Nid cerddoriaeth Gymreig mohoni, nac Albaneg na Gwyddelig; dyma gerddoriaeth rhyng-Geltaidd sy’n arbrofi gyda ffurfiau a moddau cerddoriaeth Celtaidd a’u ffurfio’n rhywbeth newydd, beiddgar.

Mae cyfansoddiadau uchelgeisiol Jamie wedi eu gwreiddio mewn adnabyddiaeth gadarn o gerddoriaeth dawns gwerin ac ar reddf greadigol a dychymyg wedi ei ysbrydoli, ond heb ei gyfyngu, gan draddodiad. Mae ei archwaeth am, a’i ddealltwriaeth o donau gwerin yn amlwg drwy sain Jamie Smith's Mabon, o’r dewis o ddefnydd – lle mae jigs a reels yn cyd-fyw â ffurfiau dawns eraill perthnasol fel an dro Llydewig, mazurka Ffrengig a muiñera o Galicia – hyd at yr addurniadau a’r amrywiadau manwl sy’n rhoi’r cymeriad dilys i’r tonau.

Yn fwy na dim, agwedd emosiynol y gerddoriaeth draddodiadol mae Jamie’n ceisio cynnwys yn ei waith ei hun; y tristwch, y llawenydd ac yn fwyaf oll yr egni pur sydd wrth wraidd y genre yma o gerddoriaeth. Gallwch chi ddisgwyl yr holl briodweddau yma yng ngherddoriaeth Jamie Smith's Mabon; ei hamcan yw’ch symyd yn gorfforol a’ch effeithio’n emosiynol, eich swyno mewn ennyd o ddrama pur a’ch rhyddhau mewn fflach o hwyl direidus.


Am y band:

Esblygodd Jamie Smith's Mabon o fand traddodiadol Cymreig ac iddo bedwar aelod, a ffurfiwyd yn 2000 gyda'r enw Mabon. Yr aelodau gwreiddiol oedd Derek a Jamie Smith (tad a mab) a Gareth a Iolo Whelan (dau frawd). Dros gyfnod o ddegawd newidiodd aelodau'r band wrth i'r gerddoriaeth a'r sain ddatblygu i'w ffurf presenol. Ym mis Ionawr 2011 daeth Mabon i ben ac yn ei le ymddangosodd Jamie Smith's Mabon: cydnabyddiaeth mai cyfansoddiadau Jamie yw sail sain y band erbyn hyn ac hefyd yn marcio ymadawiad Derek.

Grwp offerynnol yw Jamie Smith's Mabon dan arweiniad Jamie Smith ar accordion, gydag Oliver Wilson-Dickson ar ffidil a Calum Stewart ar ffliwt bren. Mae’r tri cherddor hynod yma’n deall eu chwarae ei gilydd yn drylwyr, ac yn gallu symud yn rhugl rhwng undod tynn ar felodi a gwead dwys o harmoni.

Mae Jamie, 27, yn byw yn Risca yn ne Cymru. Mae Oli’n byw yn Sir Henffordd - mae ganddo enw fel un o ffidlwyr pennaf Cymru a Lloegr, ac mae ei waith arall wedi cynnwys prosiectau The Devil’s Violin, Szapora, Teá Hodzic Trio a The Ian MacMillan Orchestra. Mae Calum Stewart, 27, yn hannu o Morayshire ac yn arwain y gad yn yr Alban ym maes chwarae’r ffliwt bren: cyrhaeddodd e rownd derfynol Scottish Young Musician of the Year, ac fe gafodd ei albwm cyntaf, Earlywood, dderbyniad gwresog gan feirniaid a’r cyhoedd fel ei gilydd.

Gyda’r tri cherddor yma ar y llwyfan mae Adam Rhodes ar y bouzouki, Matt Downer ar y gitar fâs a’r bâs unionsyth, a Iolo Whelan ar y drymiau ac offerynnau taro. Daw Adam o Ynys Manaw ac mae'n byw yng Nghaeredin, yn enill bywoliaeth drwy chwarae cerddoriaeth a chynllunio gwefannau. Matt Downer yw aelod ieuengaf a mwyaf cŵl y band. Fe raddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar, ac mae’n nawr yn gerddor arbenning o brysur ledled y wlad. Mae Iolo Whelan yn byw yn y Rhondda ac yn gweithio gan fwyaf ym Mro Morgannwg, lle mae ganddo stiwdio ddysgu brysur. Astudiodd Iolo yn y Coleg Cerdd a Drama hefyd, lle cwrdd e â Matt – a ffurfiwyd y backline mwyaf chwaethus yng ngherddoriaeth werin Cymru heddiw!

Diben y tri cherddor yma ar gefn y llwyfan yn Jamie Smith's Mabon yw cynnal a datblygu rhythmau naturiol y melodïau, yn ogystal â galluogi’r tri yn y blaen i ehangu sain y band heibio i'w wreiddiau acwstic i seiniau ehangach. Mae’n anodd osgoi labeli ‘folk-rock’ a ‘fusion’, ond mae’n nhw’n rhoi cynnig go dda arni!

Jamie Smiths Mabon

Llwyddiannau a chyraeddiadau:

Bu i Mabon chwarae mewn cyngherddau a gwyliau ledled y byd. Bu’r band yn teithio bob blwyddyn yn Llydaw a’r Eidal, yn ogystal ag ymweld â Gwlad Pwyl, Galicia, Asturias, Iwerddon, Gwlad Belg, Mecsico, Canada ac Awstralia. Yn nes at gartref, chwaraeon nhw mewn llu o ŵyliau gan gynnwys Gŵyl Werin Caergrawnt, Sidmouth, Larmer Tree, Towersey, Warwick, Fylde, Brampton Live, a chyngerdd cofiadwy yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gynulleidfa o 1,500.

Mae dau albwm stiwdio ar gael ar hyn o bryd - Ridiculous Thinkers(2004) ac OK Pewter (2007) – gwerthodd Mabon 12,000 o ddisgiau ledled y byd, a derbyn clod beirniaid cylchgronau fel fRoots, Songlines, Rock’n’Reel ac Irish Music Magazine. Yn sgil llwyddiant a phoblogrwydd OK Pewter, fe ail-lawnsiwyd yr albwm drwy Proper Music Distribution ym mis Awst 2009 ac mae nawr ar werth mewn siopau cerdd trwy’r DU.

Ym mis Hydref 2009 aeth Mabon ar eu taith fawr gyntaf ym Mhrydain, ‘OK UK Tour’, gan chwarae mewn theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru, Lloegr, Jersey, Ynys Manaw ac Ynys Wyth. Bu’r daith yn llwyddiant ysgubol - 26 cyngerdd mewn mis, a chryn sylw gan y wasg, y radio a’r teledu gan gynnwys perfformiadau i ITV1 Wales ac S4C. Dilynodd y band y llwyddiant yma gyda thaith fyrrach o wythnos ym mis Chwefror 2010.


Y dyfodol:

Wedi llwyddiant ysgubol yn eu cyngerdd cyntaf yng ngwyl Celtic Connections yn Glasgow, mae cyfnod i Jamie Smith's Mabon ymarfer, arbrofi gyda sain y band newydd a chynllunio cyngherddau ar gyfer yr haf a thaith yn yr Hydref. Cadwch lygad ar y wefan neu danysgrifiwch i'r rhestr ebost i dderbyn cylchlythyr achlysurol wrth y band.

enw: Jamie Smith

oed: 28

taldra: 5'11

man geni: Pen-y-bont ar Ogwr

enw: Oli Wilson-Dickson

oed: 35

taldra: 5'9 (falle bod hynny’n gor-ddweud!)

man geni: Leicester

enw: Adam Rhodes

oed: 30

taldra: 6 troedfedd yn union

man geni: Basildon, Essex

enw: Matt Downer

oed: 26

taldra: 5'10

man geni: Rhydychen

enw: Iolo Whelan

oed: 36

taldra: 5’10 wy’n credu, wy heb fesur ers amser hir! Hefyd wy’n tyfu’n dalach o astudio Techneg Alexander.

man geni: Caerdydd

enw: Tom Callister

oed: 19

taldra: 5'11

man geni:

Passport Pic Passport Pic Passport Pic Passport Pic Passport Pic Passport Pic

Priod Fe briodais i fy ngwraig Gráinne ym mis Mehefin 2007 yng Nghastell Peel ar Ynys Manaw, ei chartref genedigol. Mae Gráinne’n chwarae’r ffidil, yn arbenigo mewn dawns werin Manaweg ac yn galw ceili. Ry’n ni’n rhamant gŵyl ar ei orau!

Plant Un – Ganed Frank ym mis Chwefror 2009 ac mae’n dwli ar wenu.

Llefydd y buoch chi’n byw Magwyd fi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bues i’n byw yng Nghaerdydd am gwpl o flynyddoedd tra 'mod i yn y brifysgol. Treuliais i flwyddyn gyda Gráinne a’n ffrind Stuart mewn tŷ mawr gyda gardd braf yng nghefn gwlad yn Llanhennock. Symudon ni o fanna i Gaerleon, lle buon ni’n byw uwchben The Bell Inn am chwe mis a mwynhau bwyd da, cwrw da a hyd yn oed sesiwn werin wythnosol.

Cartref presennol Ry’n ni nawr yn byw mewn bwthyn glowr pedwerydd ganrif ar bymtheg yn Risca ger Casnewydd.

Diddordebau Rwy’ wedi dwli ar ddarllen erioed, yn enwedig ffantasi epig, a dwi’n mwynhau ffilm dda hefyd. Er mod i’n gwneud hynny am fywoliaeth, dwi dal yn mwynhau chwarae a chyfansoddi yn fawr iawn.

Hoff fwyd Coginio Gráinne gartref a’r fwydlen gyfan yn La Randonée, bwyty yn Llydaw lle mae’r band yn ymweld yn gyson.

Hoff ffilm(iau) Anodd dewis o blith cynifer, ond dyma rhai: Tair ffilm The Lord of the Rings, Gangs of New York, Shawshank Redemption, Anchorman, Saving Private Ryan, Shakespeare in Love, Green Mile, The Prestige, Finding Nemo, Finding Neverland.

Hoff lyfr(au) Tair cyfrol The Lord of the Rings a The Silmarillion gan Tolkien, Cyfres George R.R. Martin 'A Song of Ice & Fire', Magician gan Raymond E. Feist, tair cyfrol The Empire gan Feist a Janny Wurts, tair cyfrol Troy gan David Gemmel, cyfres Discworld Terry Pratchett a llyfrau Harry Potter gan J.K Rowling. Rhaid i fi ddarllen non-ffuglen rhyw ddydd!

Offerynnau Rwy’n chwarae’r piano accordion a’r gitâr ac yn canu. Rwy'n canu'r piano accordion ers on i’n fach, ond dechrau ei chwarae o ddifri yn ddwy ar bymtheg oed. Codais i’r gitâr yn bymtheg oed, wedi llwyddo i'w osgoi tan hynny er, neu falle achos, fod dad yn ei chwarae! Allweddell drydan oedd fy offeryn cynta, Casio Tonebank ges i pan on i’n saith oed, osododd seiliau am anturiaethau ar yr accordion yn hwyrach. Saltarelle ‘Clifden’ 60 bass yw fy accordion, sy’n wych ar gyfer chwarae melodi heb geisio swnio fel band ar ei ben ei hun.

Astudiaethau cerddorol/Cymwysterau Does gen i ddim graddau na chymwysterau cerddorol pellach na Lefel A, er i fi lwyddo i aros tymor cyfan yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd cyn gadael i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Doedd dim chwant arna i fod yn athro cerdd ta beth.

Beth neu bwy’ch ysbrydolodd chi i fod yn gerddor llawn-amser? Roedd clywed cerddoriaeth fyw o oedran namyn naw mis yn gyfraniad pendant! Tyfais i fyny mewn tîm dawns, Dawnswyr Gwerin Penyfai, ac fe es i i gyngherddau a gŵyliau drwy’r amser gyda’n rhieni. Wnaeth fy athro allweddell, Owain Sendall, fy annog i i chwarae ac i fwynhau chwarae. Fy nylanwadau cynnar ym maes cerddoriaeth werin oedd ‘The Storm’ gan Moving Hearts, Sharon Shannon, albwm cyntaf Lunasa a ‘Fused' gan Michael McGoldrick. Wedi chwarae dim ond cerddoriaeth ddawns Gymreig cyn hynny, dysgais i lawer am chwarae tonau drwy wrando a chyfeilio i’r ddau recordiad olaf yma.

Hoff artist(iaid) cerddorol/grwp(iau) The Beatles, Radiohead, Rufus Wainwright, John Mayer, Alison Krauss & Union Station, Muse, The Killers, John Williams, Karine Polwart.

Hoff record(iadau) Gwaith gan yr artistiaid uchod, a mensh arbennig I War of the Worlds Jeff Wayne. Ooooooolaaaaaa!

Gig Mabon mwyaf cofiadwy Ry’n ni wedi chwarae rhai gigs gwych – Cwlwm Celtaidd, Gŵyl Aviles yn Asturias, Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen – ond anghofia’i fyth mo’n cyngerdd yn y brifysgol yn Tapachula yn ne Mexico. Roedd y gynulleidfa’n screchian hyd yn oed wrth inni gyrraedd y llwyfan, a buon ni awr gyfan wedyn yn torri’n enwau a chael tynnu’n llun gydag aelodau’r gynulleidfa. Roedd hi fel bod yn y Beatles am noson!

Hoff atgof neu stori ddifyr o fod ar daith gyda Mabon, os gallwch chi feddwl am un! Colli’r fferi adre o Lydaw gan i gar ein dyn sain John ffrwydro ar y ffordd. Nid dyna’r rhan ddoniol. Roedd hi’n wyliau felly roedd rhaid inni aros oes tra bod cwmni achub John yn ceisio canfod mecanic Llydewig oedd yn fodlon ein tynnu i’r porthladd i ddal y bad drannoeth. Buon ni’n aros achau, a chyn hir roedd ein lembas yn ddim ond briwsion o amgylch ceg Iolo.

Unwaith inni gyrraedd fe aethon ni i geisio canfod gwesty am y nos. Wedi chwarae mewn Gŵyl Artichoke yn yr ardal yn y gorffenol, awgrymais i base'n siŵr o fod rhyw Ŵyl Asparagus yn y dre a bod y gwestai’n llawn. A doedd dim gwely i’w gael yn y dre, mi aethon ni yn y pen draw allan o’r dre i westy oedd braidd yn amhleserus. Wrth inni adael y porthladd, sylwodd Gráinne ar boster ‘Fêtes d’oignons’, gŵyl wynwns oedd yn cael ei chynnal yn Roscoff yr wythnos honno!

Hoff drac ar albwm Mabon Gower Flotsam in Bordeaux.

Hoff ddarn Jamie Smith's Mabon i’w chwarae’n fyw The Buck Rarebit.

Priod Ydw.

Plant Un.

Anifeiliaid anwes Ci dwl o’r enw Belle. Mae pobl yn honni ei bod hi’n wyllt, ond dim ond naw o bobl mae wedi cnoi hyd yma ac roedd tri o’r rheini’n ddynion post.

Llefydd y buoch chi’n byw Leicester, Penarth, Y Fenni, Caer Efrog, Nottingham, Llundain ac wedyn Y Fenni eto.

Cartref presennol Ger y Fenni mewn pentre bach o’r enw De Clydach.

Diddordebau Rwy’n cerdded bron bob dydd (fel arfer gyda fy mab ar fy nghefn a Belle ar dennyn). Ron i'n arfer chwarae tennis ond mae gweddill fy mywyd yn mynd yn ffordd hynny nawr. Rwy’n edrych ymlaen at gael syrffio dros yr haf. A dwi’n dysgu Cymraeg hefyd, ac yn falch o’r cyfle i ymarfer os oes rhywun am sgwrs!

Hoff fwyd Bwyd o Siapan, India, Cymru, Lloegr, Ffrainc a’r Eidal. Rwy’n dwli ar sushi samwn, caws gafr, Parma Ham gyda chaws Parmesan, tomatos ffres, finegr balsamig a basil, wyau wedi’u scramblo wrth ieir fy rhieni, cyw iâr Durban wedi ei goginio gartre, cinio rhost da o wydd neu hwyaden, cig oen Morfa Heli, stêc Gwartheg Duon Cymreig, cig a physgod wedi’u cochi o’r Black Mountain Smokery ger Crughywel, cig carw, aubergine babaganoosh, y sglodion yn yr Angel yn y Fenni, panini cyw coch a chig moch yn Café 18, Crughywel, pryd o gig cwningen a scallops wedi eu lapio mewn pancetta ges i unwaith yn y Walnut Tree ger Y Fenni, Craswell pie o’r Bull’s Head Craswell, siocled tywyll da, bara fy ngwraig wedi ei dostio â menyn, olewyddau, caprau, draenogiaid y môr (rhaid i chi flasu’r Whole Bass ym mwyty Pearl of the Orient ym Mae Caerdydd), brwyniaid, brie Cymreig Perl Wen…

Hoff ffilm(iau) Hmm, un anodd. Am wn i mae Shawshank Redemption ar y rhestr.

Hoff lyfr(au) Perfume gan Patrick Suskind.

Offerynnau Rwy’n chwarae’r fiolin. Rwy’n dobach gyda rhai offerynnau, ond ddim yn ddigon da i’w rhestrul!

Astudiaethau cerddorol/Cymwysterau Arholiadau gradd a gradd mewn cerddoriaeth o Gaer Efrog.

Beth neu bwy’ch ysbrydolodd chi i fod yn gerddor llawn-amser? Fy ysbrydoliaeth gyntaf i chwarae’r fiolin oedd fy chwaer fawr sy’n un o’r cerddorion ceinaf rwy’n eu hadnabod. Mae’n mam, fy nhad a’n llys-dad yn gerddorion hefyd felly roedd hynny’n help. Cofiwch chi, y person cyntaf i wneud i fi feddwl o ddifrif am chwarae fiolin am fywoliaeth oedd fy athro cemeg John Sharp. Roedd e'n arfer rhedeg clwb gwerin yn fy ysgol.

Hoff artist(iaid) cerddorol/grwp(iau) Egberto Gismonte, Alison Krauss & Union Station, Dylan Fowler, Lau, Cahill & Hayes, Stephan Grapelli...

Hoff record(iadau) Ar hyn o bryd Cahill & Hayes Welcome Here Again.

Gig Mabon mwyaf cofiadwy Siwr o fod gŵyl Celtica – chwarae ar lwyfan ar ymyl Mont Blanc gyda golygfa o’r rhewlif – hudol!

Hoff atgof neu stori ddifyr o fod ar daith gyda Mabon, os gallwch chi feddwl am un! Un o 'mhrofiadau mwyaf cofiadwy gyda Mabon oedd sesiwn yn La Ranonnée, bwyty y tu allan i L’Orient. Ar ôl clamp o bryd a rhywfaint o win, dechreuodd yr offerynnau ddod mas. Cyn hir roedd y bobl leol wedi ymuno â ni (gan gynnwys dwy ddawnswraig o glwb preifat gerllaw) ac yn cynnal Fest-Noz drwy’r bwyty. Bwyd da, gwin da, cwmni da a cherddoriaeth wych – does dim byd gwell!

Hoff drac ar albwm Mabon Gower Flotsam in Bordeaux.

Hoff ddarn Jamie Smith's Mabon i’w chwarae’n fyw File Under Biddley.

Priod Na, ond mae gen i gariad hyfryd iawn

Plant Ddim hyd y gwn i

Anifeiliaid anwes Roedd arfer bod gen i Border Collie o'r enw Kirree (sef Dafad mewn Gaeleg Ynys Manaw) arferai geisio corlanni'r cathod ar yr heol...

Llefydd y buoch chi’n byw Ganwyd yn Basildon ond wedi treulio y rhan fwyaf o'm mywyd ar Ynys Manaw lle y datblygais i'n archwaith am gerddoriaeth a phopeth cerddorol. Astudiais i yng Nghaeredin am rai blynyddoedd, mynd adre am rai blynyddoedd, a nawr wy nol yng Nghaeredin eto.

Cartref presennol Caeredin, Yr Alban

Offerynnau Bouzouki, ffidil a gitar, ac mi fyddai'n dobach gydag unrhyw offeryn galla'i gael gafael arno.

Diddordebau Teithio i lefydd gwahanol, unrhywbeth cerddorol, cynllunio at y we.

Hoff fwyd Unrhyw fath o fwyd heblaw seleri. Does dim lle i seleri yn y byd yma, mae'n amlwg mai rhyw fath o ddamwain oedd e.

Hoff fwyd Chiniaidd Wy wastad fel taswn i'n archebu Crispy Shredded Beef mewn saws chili... Wy ar gwest i ganfod y lle gorau sy'n ei goginio.

Hoff lyfr(au) Mae cywilydd arna'i ddweud nad wy wedi darllen llefr ers amser hiiiiir iawn.

Beth neu bwy’ch ysbrydolodd chi i fod yn gerddor llawn-amser? Am wn i mae'n mynd yn ol at fy rhieni. Mae fy mam yn chwarae'r gitar a'n nhad yn chwarae'r ffidil - felly wy'n chwarae'r ddau!

Hoff artist(iaid) cerddorol/grwp(iau) Alla'i ddim meddwl am un ffefryn, mae gen i ormod o lawer.

Hoff ffilm(iau) Fel gyda cherddoriaeth, wy'n dwli ar ffilm a galla'i ddim enwi un yn arbennig, ond wy yn mwynhau ffilmiau antur yn fawr.

Hoff record(iadau) Rhy anodd o lawer! Mae fy iPhone ar Shuffle yn ddibaid...

Gig Mabon mwyaf cofiadwy Mae'n nhw i gyd yn gofiadwy am resymau gwahanol... Siwr o fod ar hyn o bryd Magia Celtica achos y golygfeydd anhygoel.

Hoff atgof neu stori ddifyr o fod ar daith gyda Mabon, os gallwch chi feddwl am un! Wy'n cytuno ac Oli - y sesiwn/fest-noz sydyn ddigwyddodd yn La Randonnee un noson ar ol llond bola o fwyd a digon o win coch.

Hoff ddarn ar albwm Mabon/trac Jamie Smith's Mabon i’w chwarae’n fyw Wy'n dwli ar y CD/DVD newydd, ond fy hoff drac ar hyn o bryd yw The Gordano Ranter.

Plant Dim

Llefydd y buoch chi’n byw Bues i’n byw yn Llanilltud Fawr nes mod i’n 11 oed lle es i i Ysgol Gynradd Eagleswell a Llantwit Major Comprehensive School am un flwyddyn. Wedyn aros yng Ngaerfyrddin am flwyddyn cyn symud i San Clêr lle mae’n rhieni’n dal i fyw. Yno es i i ysgol gyfun Queen Elizabeth Maridunum. Ar ôl gwneud Lefel A symudais i i Gaerdydd a byw mewn amryw dai myfyrwyr tra’n astudio ar gyfer fy ngradd yng Ngoleg Cerdd a Drama Cymru.

Cartref presennol Ar hyn o bryd rwy’n rhannu tŷ ym Mae Caerdydd gyda fy chwaer.

Diddordebau Pan nad wy’n chwarae cerddoriaeth, rwy’n mwynhau mynd i weld gigs a’r theatr. Rwy’n mwynhau hanes a gwaith coed a chael amser da gyda fy ffrindiau.

Hoff fwyd Rwy’n dwli ar flasu bwydydd newydd ac hefyd yn mwynhau pizza ond mae’n rhaid taw’n uchafbwynt personol yw mynd adre am ginio Dydd Sul fy mam, yn enwedig ei Yorkshire Puddings.

Hoff ffilm(iau) Mae yna lawer ond mae’n rhaid bod The Godfather, Lord of the Rings, Spinal Tap a The Shawshank Redemption yn eu plith.

Hoff lyfr(au) Cyfres Narnia, Harry Potter ac unrhyw stori arswyd dda.

Offerynnau Gitâr fâs a bâs dwbl.

Beth neu bwy’ch ysbrydolodd chi i fod yn gerddor llawn-amser? Fy offerynnau cyntaf oedd yr utgorn a’r piano bues i'n astudio yn yr ysgol gynradd. Yna symudais i i chwarae’r euphonium. Roeddwn i’n mwynhau chwarae’r rhain ond daeth y fflach go iawn yn 17 oed yn yr ysgol gyfun pan ddwedodd band yr ysgol eu bod angen rhywun i chwarae’r bâs. Dwedais i baswn i’n rhoi cynnig arni a syrthio’n syth am yr offeryn. O’r foment honno ymlaen on i'n gwybod fod yn rhaid i fi chwarae ac fe benderfynais i astudio yn yn Coleg Cerdd a Drama lle codais i’r bâs dwbl am y tro cynta. Yn ystod fy nghyfnod yno cwrddais i â llawer o gerddorion ardderchog a anogodd i fi garu cerddoriaeth yn fwy. Mae’r rhain yn cynnwys Paula Gardiner, Horacio Fumero yn y Conservatori Liceu ym Marcelona a Dudley Phillips i enwi ond rhai.

Hoff artist(iaid) cerddorol/grwp(iau) Guns and Roses, Led Zeppelin, Buena Vista Social Club, Leadbelly, Lonnie Donnegan, Alison Krauss, Dolly Parton, The Prodigy ac unrhyw beth ar label recordiau Motown.

Hoff record(iadau) Guns and Roses - Appetite for Destruction.
Michael Jackson - Thriller.
Fwy neu lai unrhyw beth ar Motown.

Gig Mabon mwyaf cofiadwy Mae’r gig yn y brifysgol yn Tapachula yn Mecsico yn rhywbeth bydd yn aros gyda fi am byth.

Hoff atgof neu stori ddifyr o fod ar daith gyda Mabon, os gallwch chi feddwl am un! Clywed yn aml yr ymadrodd “We’re only out!!!”

Hoff drac ar albwm Mabon Schindig.

Hoff ddarn Jamie Smith's Mabon i’w chwarae’n fyw The Whiskey Burp Reels.

Priod Tair blynedd o briodas hapus â Rachel, merch o Ynys Manaw wnes i gwrdd â hi mewn gŵyl yn 1992 wy’n credu, ac a ddaeth daw i Gymru bron i ddegawd yn hwyrach. Yfodd Rachel ormod ar ôl gig Jamie Smith's Mabon yn Cromer rhai blynyddoedd yn ôl a gofyn i fi ei phriodi ar ddamwain – ac felly y bu.

Plant Un ferch hyfryd o’r enw Catrin Elizabeth.

Anifeiliaid anwes Holly, y Jack Russell hyfryta erioed. Mae’n fy nghadw i allan yn cerdded ac yn gwneud i fi chwerthin bob dydd. Ei phrif bwrpas mewn bywyd yw rhoi cwtsh i’r missis pan fydda i allan yn gweithio, sydd fel arfer yn rhy aml.

Llefydd y buoch chi’n byw Bachgen cefn gwlad yn y bôn, magwyd fi mewn cae ym Mro Morgannwg. (Roedd tŷ ar y cae, gyda llaw.) Mae sôn i fi fyw yn Abertawe am dair blynedd “yn y Brifysgol”, ond mae’n bosibl nad oeddwn i yno ar y pryd. Bues i’n byw yng Nghaerdydd am sbel cyn mynd i chwilio am lefydd mwy gwledig eto gyda Rach.

Cartref presennol Pontyclun, tref fach ddymunol sydd 25 munud i ffwrdd o unrhyw le. Fe brynon ni hen dŷ teras yno flwyddyn yn ôl ag angen llwythi o waith arno. Ry’n ni bron a gorffen dwy ystafell yn barod, bydd y lle’n hyfryd erbyn 2018.

Diddordebau Cerddoriaeth wrth gwrs, ac yn enwedig popeth percysaidd! Jazz i’w chwarae, Funk i ddawnsio, a fwy neu lai unrhyw gerddoriaeth dim ond ei bod o safon. Hefyd, fel y dyfaloch chi, adeiladu a thrwsio adeiladau (ochenaid), cerdded gyda’r ci, nofio (yn anaml, yn anffodus), a darn da o gaws. Mmm. Hefyd, os carech chi weld hobi dra gwahanol, ewch at www.theroundhouse.org i weld un o 'nghyweithiau blaenorol. Bu hynny’n fy nghadw yn brysur am sbel!

Hoff fwyd Sonies i am gaws yn barod? Hefyd Pizza, sef yn fy marn i, Yr Unig Fwyd.

Hoff ffilm(iau) Anaml byddai’n eistedd yn llonydd yn ddigon hir i wylio un, er fy mod i’n eu mwynhau. Rhywbeth anghyfforddus fel ‘Closer’, ‘Lost in Translation’ neu ‘House of Sand and Fog’. Neu rhywbeth i goglais yr ymennydd fel ‘Fight Club’, ‘Vanilla Sky’ neu ‘The Prestige’.

Hoff lyfr(au) Mae’n rhaid taw ‘The Lord of the Rings’ gan J.R.R. Tolkien yw’r llyfr ffantasi eithaf. Wy hefyd yn ffan mawr o lyfr Raymond E. Feist ‘Magician’ (pam nad ydych chi wedi darllen y llyfr yma? Ewch ati!) a’i gyfres ‘Empire’. A wy wastad wedi mwynhau Terry Pratchett hefyd, am ddiddanwch pur.

Offerynnau Drum kit ac offerynnau taro.

Astudiaethau cerddorol/Cymwysterau Dysgais i'r offerynnau taro clasurol yn blentyn, er mai’r unig arholiad i fi ei sefyll erioed oedd Gradd 2 ar y ffidil. Dysgais i fy hun i chwarae’r kit nes i fi ddechrau cwest i wella fy chwarae rhai blynyddoedd yn ôl: des i o hyd i athro, ac yn y pen draw astudiais i am Ddiploma Ôl-Radd mewn Perfformio Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dwlais i ar goleg cerdd, er i fi fy arteithio fy hun yn ddibaid, a’r prif beth ddysgais i oedd faint oedd gen i i’w ddysgu! Wy bob amser yn chwilio am y cyfle nesa i ddatblygu.

Beth neu bwy’ch ysbrydolodd chi i fod yn gerddor llawn-amser? Oes yna ddewis arall? Clamp o ddiolch i’n rheini, a’n magodd ni i gyd yn sain cerddoriaeth. Sylwais i byth tan yn hwyrach mewn bywyd nad oedd angen rheol yn nhai pobl eraill i wahardd canu wrth y bwrdd bwyd. Mae’n debyg dyfeisiwyd y rheol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n bwyta rhywfaint. Wy’n amau hefyd bod galwedigaeth gen i i ddysgu, ac mae dysgu pobl i ddrymio yn ffordd i fi wneud hynny heb orfod bod mewn ystafell ddosbarth – diolch byth am hynny!

Hoff artist(iaid) cerddorol/grwp(iau) Na, wir, oes rhaid i fi?

Hoff record(iadau) Yn hanesyddol:
Cape Town Flowers (Abdullah Ibrahim);
Life on Planet Groove (Maceo Parker);
Below the Bassline (Ernest Ranglin);
Kamakiriad (Donald Fagen);
War of the Worlds (Jeff Wayne);
Dark Side of the Moon (Pink Floyd).

Ar hyn o bryd:
Stir it Up (Monty Alexander – mae’n rhaid i chi glywed y boi ’ma!);
Keith Jarrett Trio Live (ouch);
We Live Here (Pat Metheny. Wy’n credu i fi sôn eisoes 'mod i’n hoff o gaws?)
Yr unig drafferth yw os gofynnwch chi i fi fory, fe gewch chi ateb gwahanol!

Gig Mabon mwyaf cofiadwy Mae gymaint o ddewis! Cymaint o gigs, ac yn sefyll ar wahân i’w gilydd am resymau gwahanol.
Siŵr o fod fy hoff gig yw’r un dwetha, neu falle yr un nesa, alla i ddim penderfynu: Zen Celtaidd!

Hoff atgof neu stori ddifyr o fod ar daith gyda Mabon, os gallwch chi feddwl am un! Ha! Mae gen i atgoffion di-ri o weithio yn y band yma. Treulio pedair-ish blynedd cynta’r cywaith yn gweithio gyda ‘mrawd i, Gareth? Mae’n wir fraint cael gweithio mor agos a chyd-berfformio gydag aelod o’ch teulu. Pryd enfawr y posse yn La Randonée llynedd – dros ugain ohonon ni, yn gerddorion, dawnswyr a chyfeillion? Gweld Derek bron ag wylo ar ei bás Artist yng Ngwyl Caergrawnt? Hedfan o Mexio City i Tapachula dros dirweddau anhygoel? Neu ar draws Awstrali’n meddwl “All hi ddim bod yn anialwch lawer pellach…”? Chwydu o salwch teithio bob siwrne yn y Mabon-Wagon cynta (damo’r system suspension Citroen!)?

A, dyma un difyr… Rhedes i ar draws llwyfan enfawr yn Mexico City i gyrraedd y kit mewn pryd am cue, camfarnu’r pellter, ac wrth fynd yn rhy gyflym rhedeg yn syth mewn i’r drum riser. Aw! Dim amdani ond cario 'mlaen i chwarae wrth gwrs, felly mi anwybyddais i’r boen, ac roedd hi’n wythnosau cyn i fi sylweddoli beth oedd y lwmpyn ar flaen fy nghoes. Mae gen i lwmpyn hyd heddiw gallwch chi ei ddefnyddio i wirio’r stori am ffi rhesymol. Dyna ddysgu i fi fynd i flaen y llwyfan yn lle aros yn fy lle priodol.

Felly basech chi’n meddwl… Ond fe wnes i’r un camgymeriad eto mewn gig llynedd, ond yn lle drum riser, cydiodd fy nhroed yn lead ffidil Ruth. Fy atgof Mabon mwyaf erchyll yw sŵn y ffidil yn torri ar y gwddf wrth iddi fwrw’r llawr, a’r ddau drac ola, ar ôl i Ruth adael y llwyfan, yw’r perfformiad anodda i fi orfod ei chwarae erioed, gyda’r offeryn cam yn syllu arna i ar draws y llwyfan. Yn ffodus, roedd Ruth yn angel (geddit?) ynglŷn â’r peth, ac fe gafodd y ffidil ei thrwsio’n well nag erioed, diolch byth!

Hoff drac ar albwm Mabon Mi feddyliai am hon a rhoi gwybod i chi. Gofynnwch i fi ryw ddydd!

Hoff ddarn Jamie Smith's Mabon i’w chwarae’n fyw Yr un dwi wrthi’n chwarae, fel arfer.
Mae rhai’n anos i’w cael i deimlo’n iawn, felly wy’n dwli ar yr her.
Mae eraill galla i ymlacio mwy, a mwyhau’r groove.
Mae popeth yn dod 'nôl at y Groove…

© 2013 jamie smith's mabon - site created by BackBeat Design